Cerdd Cydweithredol Wrecsam
Arweiniad Rhieni I'n GwasanaethPwy ydym ni
Y gwersi
Offerynnau
Byddwn ni’n darparu offeryn ar gyfer eich plentyn a bydd y tiwtor yn eich cynghori chi a’ch plentyn wrth ddewis yr offeryn a fydd fwyaf addas iddynt.
Mae gwersi ar gael ar gyfer y ffidil, fiola, soddgrwth, bas dwbwl, telyn, recorder, ffliwt, obo, clarinet, basŵn, sacsoffon, trwmped, corned, corn fflugel, corn tenor, baritôn, ewffoniwm, trombôn, tiwba, corn ffrengig, cit drymiau, offerynnau taro cerddorfa, piano, allweddell drydan, gitâr (acwstig, clasurol, trydan a bâs), iwcaleili, llais, theori cerddoriaeth a gwrando.
Arholiadau
Ensemblau
Gall pob plentyn ymuno gydag un o’n grwpiau sydd wedi’u lleoli ar draws y sir.
Bydd ein tiwtoriaid yn eich cynghori pa grŵp fyddai fwyaf addas i’ch plentyn.
Mae chwarae mewn grŵp yn rhan bwysig o gynnydd ac yn help i ddatblygu cyfeillgarwch, gwaith tim a sgiliau hyder. Mae perfformio’n rheolaidd yn hanfodol i gynnydd.
Ysgol Haf Mania Cerdd
Bydd holl ddisgyblion Sir Wrecsam yn cael cyfle i fynychu ysgol haf flynyddol ein Cwmni ‘Mania Cerdd’. Cynhelir hyn bob mis Awst mewn trefniant â Cerdd Cydweithredol Wrecsam ac mae’n gwrs wythnos di-breswyl ar gyfer offerynnwyr a rhai sydd ddim yn offerynnwyr. Yn aml, cyflwyniad yw’r cwrs i wersi cerddoriaeth ac mae gennym grŵp creadigol ar y cwrs lle caiff y plant eu cyflwyno i nifer o wahanol offerynnau. Mae’r cwrs yn cynnwys chwaraeon, crefftau, ymarferion adeiladu tîm, ac mae gennym dîm o diwtoriaid dwyieithog wrth law er mwyn sicrhau fod pob disgybl yn cael wythnos dda.
Bydd trafnidiaeth wedi’i staffio ar gael o ardal Wrecsam.
Mae Mania Cerdd ar gyfer pob disgybl 7 i 18 oed. Ewch i www.musicmania.education i wneud cais.
Canslo
Bydd y gwersi cerdd ar ddiwrnod penodol pob wythnos. Nid y tiwtor sy’n gyfrifol am sicrhau fod eich plentyn yn dal i fyny gyda gwersi a gollir os yw eich plentyn yn absennol am unrhyw reswm – gan gynnwys anghofio’i h/offeryn. Unwaith i’ch plentyn ddechrau, a wnewch sicrhau ei b/fod yn mynychu pob sesiwn ac yn mynd â’i h/offeryn gyda hi/ef ar ddiwrnod y wers.
Mae eich anogaeth a’ch cefnogaeth yn hanfodol.
Rhaid rhoi gwybod yn ysgrifenedig i’r ysgol os ydych yn dymuno canslo gwersi cerdd a bydd yn rhaid rhoi hanner tymor o rybudd – byddwch yn gorfod talu hanner tymor o flaen llaw fel cyfnod rhybudd i’r tiwtor.
Mae ein tiwtoriaid yn brofiadol iawn yn eu meysydd eu hunain a byddant yn barod i gefnogi unrhyw blentyn sy’n ystyried rhoi’r gorau iddi. Nid ydym yn dymuno gweld diwedd taith gerddorol unrhyw blentyn ac weithiau sgwrs fer ac ychydig o anogaeth yn unig sydd ei angen arnynt i barhau ac i ddysgu gwers werthfawr mewn sgiliau bywyd.
Mae cyfathrebu’n bwysig iawn os ydych yn anhapus gydag unrhyw agwedd o’n gwasanaeth – ein nod yw cynnig y profiad cerddorol gorau posibl a cheisiwn ddatrys unrhyw broblemau a fydd yn codi ar hyd y daith. Mae ein Cyfarwyddwr yn hapus i gwrdd â rhieni/gofalwyr fel bo’r angen.