Cwmni dim-am-elw yw Cerdd Cydweithredol Wrecsam sy’n darparu hyfforddiant cerdd safonol yn ardal Wrecsam.
Cynhelir y Corff Cydweithredol gan yr athrawon er lles holl ddisgyblion Sir Wrecsam ac fe’i rheolir gan Heather Powell, a thîm gweinyddol profiadol.
Rydym yn darparu hyfforddiant ar ystod eang o offerynnau a llais, gan anelu i ddatblygu potensial cerddorol pob disgybl yn unol â’u hanghenion a’u dyheadau unigol.
Rydym yn cynnig golwg newydd ar ddarpariaeth cerdd ledled y sir fel rhan o grŵp cynyddol o gyrff cydweithredol cerdd yng ngogledd Cymru.